Ein Cenhadaeth

Mae angen lle diogel, oedolion y gellir ymddiried ynddynt a chyfle gwirioneddol ar bobl ifanc.

Mae Urban Circle yn elusen celfyddydau, treftadaeth ac eiriolaeth i bobl ifanc, sy'n cael ei harwain gan bobl Dduon ac wedi'i lleoli yng Nghasnewydd. Ers 2006, mae wedi defnyddio dawns, drama, cerddoriaeth, cyfryngau digidol, digwyddiadau a phrosiectau cymunedol i helpu pobl ifanc i archwilio hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn, magu hyder ac ennill cymwysterau, datblygu sgiliau arwain, a chreu llwybrau i addysg, cyflogaeth a gwaith creadigol â thâl.